Welsh language policy

Cymraeg

Diolch am gofrestru i fod yn rhan o’r gymuned Llais Aelodau! Mae hon yn fenter newydd gyffrous i ni a fydd, gobeithio, yn dod yn rhan bwysig o'n busnes a'r penderfyniadau a wnawn. Nod y gymuned yw ymgysylltu ag aelodau Principality sydd â diddordeb mewn gweithio gyda ni i'n helpu i ddeall mwy am eu hanghenion a'u profiadau er mwyn inni allu addasu ein cynhyrchion a'n gwasanaethau yn unol â hynny. Rydym yn gobeithio creu amgylchedd ysgogol i aelodau'r gymuned rannu eu syniadau gyda ni a gyda'i gilydd.

Fel Cymdeithas Adeiladu fwyaf Cymru, agwedd bwysig ar ein busnes yw ein treftadaeth Gymreig a'r bresenoldeb sydd gennym yng nghymunedau Cymru. Rydym, felly, wedi ymrwymo'n llwyr i wella ein darpariaeth Gymraeg a chefnogi cwsmeriaid a chydweithwyr sy'n dymuno rhyngweithio â ni yn Gymraeg. Rydym wrth ein bodd bod nifer o siaradwyr Cymraeg eisoes wedi ymuno â'r Panel a gobeithiwn y bydd y grŵp hwn yn tyfu. Yn y dyfodol, hoffem drefnu rhai gweithgareddau yn Gymraeg ac ymchwilio i hyn ymhellach, byddwn yn sefydlu grŵp trafod pwrpasol ar gyfer siaradwyr Cymraeg a'r rhai sydd â diddordeb yn y Gymraeg. Ystyriwch ymuno yn hwn os yw’n faes sydd o ddiddordeb i chi a'ch teulu!

Gan fod cymuned Llais Aelodau yn agored i gwsmeriaid Principality ledled y DU, nid ydym yn bwriadu cyfieithu rhannau cyhoeddus y cyfrwng na'r prif weithgareddau yr ydym yn eu cynnal. Mae hon yn gymuned fyw gydag aelodau o bob rhan o'r DU yn uwchlwytho sylwadau mewn amser real ac rydym yn annog aelodau i rannu gyda'i gilydd yn ogystal â gyda ni. Byddai cyfieithu rhai o'n gweithgareddau arfaethedig hefyd yn achosi rhai problemau technegol cymhleth a'n blaenoriaeth yw eich bod yn ei chael yn hawdd rhyngweithio â'n cyfrwng a'n bod yn gallu bod yn hyblyg yn ein hymatebion. Byddwn yn ymateb i gwestiynau neu adborth unigol yn Gymraeg a byddem yn gobeithio datblygu ein hymagwedd at hyn wrth i'r gymuned dyfu ac wrth i ni gael ymdeimlad cryfach o'ch disgwyliadau a'ch dewisiadau. Mae'n ddyddiau cynnar iawn i ni o hyd o ran recriwtio aelodau i'r gymuned a byddwn yn addasu ein dull o weithredu i gyd-fynd â'r ymatebion a gawn dros amser.

Gobeithio y byddwch yn mwynhau bod yn rhan o Llais Aelodau a diolch ymlaen llaw am eich cyfraniadau!
 

Os hoffech chi wybod mwy am Bolisi Iaith Gymraeg Principality, cliciwch yma

English

Thank you for registering to be part of the Member Pulse community! This is an exciting new initiative for us which we hope will become an important part of our business and the decisions we make. The aim of the community is to engage with Principality members who are interested in working with us to help us understand more about their needs and experiences so that we can adapt our products and services accordingly. We hope to create a stimulating environment for community members to share their ideas with us and with each other.

As Wales’ biggest Building Society, an important aspect of our business is our welsh heritage and the presence we have within welsh communities. So we are very committed to improving our welsh language provision and supporting both customers and colleagues who wish to interact with us in welsh. We are delighted that a number of welsh speakers have already joined the Panel and we hope this group will grow. In future, we’d like to organise some activities in welsh and to explore this further, we will be setting up a dedicated discussion group for welsh speakers and those with an interest in welsh language. Please consider joining this if this is an area of interest to you and your family!

As the Member Pulse community is open to Principality customers across the UK, we do not plan to translate the public parts of the platform or the main activities that we run. This is a live community with members from across the UK uploading comments in real time and we are encouraging members to share with each other as well as with us. Translating some of our planned activities would also present some complex technical issues and our priority is that you find it easy to interact with our platform and that we are able to be flexible in our responses. We will respond to individual questions or feedback in welsh however and we’d hope to develop our approach to this as the community grows and we get a stronger sense of your expectations and preferences. It is still very early days for us in terms of recruiting members into the community and we will be adapting our approach to match the responses we get over time.

We hope that you will enjoy being part of Member Pulse and thank you in advance for your contributions!  

If you would like to know more about Principality's Welsh Language Policy click here